Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Conference Room 4B - Ty Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011

 

Amser:

Times Not Specified

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2011(3)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

Angela Burns

Sandy Mewies

Rhodri Glyn Thomas

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog)

Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu (Swyddog)

Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog)

Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth (Swyddog)

Non Gwilym (Swyddog)

Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad (Swyddog)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, Ddirprwy Lywydd

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

 

 

 

 

 

<AI1>

1.   Cyflwyniad

 

Diolchodd y Llywydd i staff y Cynulliad, yn enwedig Claire Clancy, Keith Bush ac Adrian Crompton, am y gefnogaeth a’r cyngor a roddwyd mewn perthynas ag ethol dau unigolyn i’r Cynulliad pan oeddent wedi’u hanghymhwyso. Roedd y Comisiwn yn ddiolchgar am gefnogaeth swyddogion i ddatrys sefyllfa gymhleth a digynsail cyn gynted ag y bo modd, drwy broses deg a chyfreithiol gadarn.

 

Nododd y Llywydd fod y trefniadau newydd ar gyfer ateb Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Comisiwn wedi gweithio’n dda ar 6 Gorffennaf, a bod adborth gan Aelodau wedi bod yn gadarnhaol.

 

Cytunodd y Comisiwn y byddai papurau briffio’r Aelodau yn cael eu dosbarthu ar ôl cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

 

</AI1>

<AI2>

1(i)        Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

1(ii)       Datganiadau o fuddiant

 

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

</AI3>

<AI4>

1(iii)      Cofnodion y cyfarfod ar 29 Mehefin 2011

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2011
Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol.

 

Materion yn codi o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2011
Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

 

</AI4>

<AI5>

2.   Strategaeth ddrafft ddiwygiedig y Comisiwn 2011-16

 

Mae’r strategaeth ddrafft ar gyfer 2011-16 wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu sylwadau gan y Comisiynwyr am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y sefydliad.

 

Cytunwyd ar y fersiwn ddiwygiedig o’r datganiad o bwrpas a’r nodau strategol drafft, yn amodol ar fân newidiadau pellach y gofynnodd y Comisiynwyr amdanynt, i symleiddio geiriad y strategaeth.

 

 

</AI5>

<AI6>

3.   Strategaeth cyllideb ddrafft y Comisiwn

 

Trafododd y Comisiynwyr y gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm. Cytunwyd bod y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, angen safon uchel o wasanaethau cymorth priodol i alluogi’r Aelodau i gyflawni eu rolau. Rhoddwyd adborth ar yr effaith a gaiff gostyngiadau yng nghyllideb y gwasanaeth ymchwil ar Aelodau.

 

Trafodwyd blaenoriaethau’r Comisiynwyr ar gyfer darparu gwasanaethau craidd, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol benodol ar gyfer pwyllgorau’r Cynulliad, Gwasanaeth Ymchwil cryf, gwasanaethau cyfreithiol, ac adnoddau TGCh arbenigol ar gyfer datblygu’r strategaeth TGCh. Rhoddwyd arweiniad ar y dull cyffredinol o weithredu strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011-16, ac ar y lefel orau o gydbwysedd rhwng gwelliannau / twf a chost. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo ei bod yn bwysig i gyflwyno cyfanswm cyfunol cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad a chyllideb yr Aelodau gyda’i gilydd.

 

Bydd cynigion cyllidebol manwl—gan amlygu lle gellid gwneud arbedion a lefel yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gwasanaeth—a strategaethau cyfathrebu drafft yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i wneud gwaith manwl yn ystod yr haf, gan weithio gyda deiliaid portffolio. Bydd y Comisiwn yn trafod y gwaith ym mis Medi.

 

 

</AI6>

<AI7>

4.   Gwasanaethau dwyieithog

 

Cafodd yCofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn ei drafod, gan ystyried yr adroddiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sylwadau a wnaed gan Aelodau a rhanddeiliaid, yr egwyddor o fynediad i drafodion y Cynulliad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, a’r angen i sicrhau gwerth am arian. Cytunodd y Comisiwn y dylai ymchwiliadau i ddarparu cofnod dwyieithog barhau, a gofynnodd am ragor o wybodaeth fanwl am gyfanswm y costau tebygol, gan gynnwys strwythur tâl y gwasanaeth Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen. Dywedodd y Comisiwn bod angen i unrhyw drefniant fod yn gynaliadwy. Fodd bynnag, os gellid dod o hyd i ateb hirdymor am bris rhesymol, mewn egwyddor, mae’r Comisiwn yn awyddus i ddarparu Cofnod gwbl ddwyieithog. Yn y cyfamser, bydd trefniadau presennol yn parhau. Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â’r mater.

 

Yn amodol ar ddiwygiadau i adlewyrchu’r penderfyniadau hyn, cytunwyd ar Fil drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch Ieithoedd Swyddogol, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft a’r amserlen ymgynghori. Gofynnodd y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys awdurdodau lleol.

 

Camau i’w cymryd: Swyddogion i ddarparu rhagor o fanylion am gostau defnyddio Google Translate o fis Rhagfyr 2011 ymlaen.

 

Y Llywydd i ymateb i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ran Comisiwn y Cynulliad.

 

 

</AI7>

<AI8>

5.   System rheoli achosion

 

Darparwyd gwybodaeth am nifer yr Aelodau sy’n defnyddio'r system; cost y system hyd yn hyn; goblygiadau o ran diogelu adnoddau pan fydd staff y comisiwn yn ymwneud â’r broses o ofyn am ddata o’r gofrestr etholiadol a chael y data hynny; a’r risgiau o’r data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mantais wleidyddol.

 

Codwyd pryderon ynghylch costau’rprosiect hyd yn hyn, a gofynnwyd am fwy o waith i gael ei wneud ar brosiectau tebyg yn y dyfodol i sefydlu gofynion defnyddwyr, amcangyfrif y nifer a fydd yn ei ddefnyddio, a sicrhau bod amcangyfrifon o’r costau yn gadarn.

 

Cytunodd y Comisiwn i wneud cais i’r Comisiwn ddod yn gorff a enwir yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.

 

Cam i’w gymryd:Keith Bush i ofyn am newid i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys Comisiwn y Cynulliad fel corff a enwir.

 

 

</AI8>

<AI9>

6.   Penderfyniad ac adroddiad y Bwrdd Taliadau

 

Gwnaeth y Bwrdd Taliadau ei Benderfyniad cyntaf ym mis Mawrth 2011, ond ar y pryd nid oedd yn gallu gwneud penderfyniadau terfynol o ran y cyflogau ychwanegol sy’n daladwy i rai deiliaid swyddi yn y Cynulliad. Mae’r Penderfyniad bellach wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu penderfyniadau ar gyflogau ychwanegol sy’n daladwy i Gomisiynwyr, arweinwyr y pleidiau, cadeiryddion pwyllgorau a rheolwyr busnes, a derbyniwyd y Penderfyniad yn ffurfiol yng nghyfarfod y Comisiwn. Roedd y Comisiynwyr o’r farn nad oedd y trefniadau cyflog ychwanegol i reolwyr busnes y pleidiau yn ddigonol o ran adlewyrchu gwahaniaethau yn y nifer o seddi sydd gan bob plaid.

 

Codwyd materion gyda’r Llywydd a’r Comisiynwyr eraill am y cap misol ar lety ar rent ac am y meini prawf o ran pellter i fod yn gymwys i gael cymorth llety yn seiliedig ar yr etholaeth neu’r rhanbarth y mae’r Aelod yn ei gynrychioli. Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Llywydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau.

 

Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i drefnu gosod y Penderfyniad a’r adroddiad, ac anfon y dogfennau i Aelodau'r Cynulliad a’u staff.

 

Y Llywydd i ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau yn nodi pryderon yr Aelodau am y cyfyngiadau ar gymhwyster ar gyfer cymorth llety.

 

 

</AI9>

<AI10>

7.   Papur i’w nodi – adroddiad blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad

 

Nodwyd yr adroddiad blynyddol.

 

 

</AI10>

<AI11>

8.   Papur i’w nodi – rhestr contractau

 

Nodwyd y rhestr o gontractau. Gofynnodd y Comisiynwyr bod yr amserlen yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu dyfarnu’r contract arlwyo.

 

</AI11>

<AI12>

9.   Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad

 

Nodwyd y rhaglen dreigl.

 

 

</AI12>

<AI13>

10.       Unrhyw Fusnes Arall

 

Nid oedd unrhyw fusnes arall.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>